Skip to main content
Recently opened
Recently opened

Gwybodaeth am Ofcom

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydym yn gwneud gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw’r DU wedi’i chysylltu ag yn siapio sut byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol.

Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang, i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau diwifr. Rydym hefyd yn ymgymryd â’r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, rydym angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau a phrofiadau amrywiol.

Gwybodaeth am y tîm y byddwch chi’n rhan ohono

Ar ein cynllun graddedigion, byddwch yn dechrau ar raglen ddwy flynedd, sy'n cynnwys pedwar lleoliad gwaith dwys am chwe mis yr un yn gweithio ar brosiectau amrywiol mewn gwahanol dimau.

Gallech chi fod yn gweithio i hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol a dewisiadau ar sail gwybodaeth ym maes telethrebu yn ein tîm Seilwaith a Chysylltedd neu’n helpu i gynnal ac i gryfhau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y tîm datblygu Polisi Cynnwys. Gallwch hefyd weithio ar ein strategaeth – gosod yr agenda a’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol y sectorau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio. Mae gennym hefyd leoliadau i raddedigion yng Ngrŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom lle gallech chi fod yn gweithio i ddatblygu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer diogelwch ar-lein neu’n goruchwylio llwyfannau ar-lein.

Mae timau gorfodi Ofcom wrth galon y gwaith o sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg a bod cynulleidfaoedd a defnyddwyr yn cael eu diogelu. Fel rhan o’r rhaglen i raddedigion, efallai byddwch yn gweithio ar ymchwiliadau rheoleiddiol yn y Tîm Gorfodi neu’n ystyried cwynion gan gynulleidfaoedd yn erbyn y Cod Darlledu yn ein tîm Safonau Cynnwys a Gorfodi.

Mae Ofcom yn arweinydd o’r radd flaenaf ym maes ymchwil a gwybodaeth am y farchnad. Yn ein tîm Ymchwil a Gwybodaeth, gallech fod yn cyhoeddi mewnwelediadau y sector neu’n arwain prosiectau ymchwil defnyddwyr i ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ddatblygu polisïau.

Gall graddedigion yn Ofcom weithio ar draws ein cylch gwaith rheoleiddio llawn a chael eu trochi yn y sector cyfathrebu prysur sy’n esblygu. Nid oes gradd ‘gywir’ y dylid bod wedi’i hastudio. Mae bod yn academydd cryf ynghyd â pharodrwydd i ddysgu, a brwdfrydedd yn hanfodol.

Bydd bod ar gynllun Graddedigion Ofcom yn eich galluogi i adeiladu ar y profiad a’r wybodaeth sydd gennych eisoes, gan gyfrannu at un o ddiwydiannau mwyaf y DU.

Pwrpas a chwmpas y rôl

Mae cynllun Graddedigion Ofcom yn rhaglen gylchdroadol ddeinamig dwy flynedd sydd wedi’i chynllunio i’ch trochi yng nghanol ein llwybrau polisi, gorfodi ac ymchwil. Fel myfyriwr graddedig byddwch yn ennill profiad eang, ymarferol ar draws holl feysydd gwaith Ofcom, gan roi profiad heb ei hail i chi o’r prosiectau amrywiol ac effeithiol sy’n llunio tirwedd cyfathrebu’r DU. Un wythnos efallai byddwch chi’n llunio cyfarwyddebau polisi newydd; yr wythnos nesaf, yn monitro safonau rhaglenni darlledu.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r materion hollbwysig sy’n wynebu rhai o ddiwydiannau mwyaf y DU, o delegyfathrebiadau i ddarlledu, gan gyfrannu’n weithredol at y polisïau sy’n sbarduno newid. Mae'r cyfle hwn yn caniatáu ichi gymhwyso'ch sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol, gan adeiladu ar alluoedd cyfathrebu a phrofiad ymarferol.

Drwy ymuno â chynllun Graddedigion Ofcom , byddwch yn ehangu eich arbenigedd ar draws nifer o sectorau ac yn datblygu’r offer a’r ddealltwriaeth i gyfrannu’n ystyrlon at ein diwydiant sy’n esblygu.

Eich prif gyfrifoldebau

  • Gweithio fel rhan o wahanol dimau prosiect , gan arwain ar agwedd ar y prosiect yn ogystal â chefnogi Arweinwyr Prosiect/Rheolwyr/Cyfarwyddwyr i sicrhau cynnydd cyffredinol.
  • Casglu a dadansoddi tystiolaeth, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall eu safbwyntiau a chrynhoi i gydweithwyr.
  • Cyfrannu at ddatblygu ffrydiau gwaith a thrafodaethau grŵp, gan gyflwyno eich dadansoddiad a chydweithio â chydweithwyr arbenigol i ddatblygu opsiynau ar gyfer y dyfodol.
  • Drafftio dogfennau clir a chywir, gyda chymorth lle bo angen.
  • Defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol/gweithredol i gyflawni blaenoriaethau mae’n atebol amdanynt ar amser, ac i safon uchel.
  • Herio syniadau, gan gyfrannu syniadau ar sut i wella.
  • Deall a defnyddio polisïau a gweithdrefnau sefydliadol allweddol sy’n helpu i reoli risgiau ac enw da Ofcom.

Y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i lwyddo

  • Cynhyrchu mewnwelediadau - Casglu a pharatoi gwybodaeth, dadansoddi ac adnabod patrymau, materion a mewnwelediadau.
  • Gweithredu Cynlluniau – Trefnu tasgau a gosod nodau clir, rheoli adnoddau’n ddoeth, tra’n cadw llygad ar gynnydd.
  • Croesawu Newid – Aros yn hyblyg yn wyneb newid, rhagweld ac addasu i newidiadau.
  • Mynd ar Drywydd Twf – Dangos eich ymrwymiad i dyfu a datblygu. Mynd ar drywydd cyfleoedd i ddysgu ac i feithrin sgiliau newydd.
  • Creu cysylltiadau – Creu a meithrin cysylltiadau cadarnhaol â phobl y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad.
  • Mynegi Syniadau – Mynegi eich syniadau, eich meddyliau a’ch gwybodaeth mewn ffordd glir a chryno, gan sicrhau bod pawb yn deall y negeseuon.